2020 Rhif 1320 (Cy. 291)
Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a 157(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061 a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 15(1) o Ran 3 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19832 a pharagraff 4 o Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20003, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy4.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1), (2)(e) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 13(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, paragraff 15(2) o Ran 3 o Atodlen 4A5 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 156(4)(j) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20006.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Tachwedd 2020 ond—
a
nid yw erthyglau 2 a 3 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;
b
nid yw erthyglau 4 a 5 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;
c
mae erthyglau 6 a 7 yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru neu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
a
ystyr “Gorchymyn 2007” yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 20077,
b
ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ac
c
ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
RHAN 2Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o dreuliau etholiad: etholiadau Senedd Cymru
Diwygio Gorchymyn 2007
2
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthygl 3.
3
Yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Eithriadau cyffredinol) ar ôl paragraff 13 mewnosoder y canlynol—
13A
1
Any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred.
2
In this paragraph “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 20108.
13B
Expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.
RHAN 3Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o dreuliau etholiad: etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Diwygio Deddf 1983
4
Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 5.
5
Yn Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (treuliau etholiad: eithriadau cyffredinol)—
a
ym mharagraff 7A hepgorer is-baragraff (3);
b
ar ôl paragraff 8 mewnosoder y canlynol—
8A
In relation to a local government election in Wales, expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.
Rhan 4Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o wariant ymgyrchu: etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Diwygio Deddf 2000
6
Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 7.
7
Yn Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (eithriadau)—
a
ym mharagraff 2(1)(d) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “or”;
b
ym mharagraff 2(1)(e) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “him.” a mewnosoder “him; or”;
c
ar ôl paragraff 2(1)(e) mewnosoder y canlynol—
f
any expenses incurred in respect of a Senedd Cymru election or a local government election in Wales:
i
relating to any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred; and
ii
in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.
d
ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder y canlynol—
3
In relation to sub-paragraph 2(1)(f)(i) “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)