2020 Rhif 1308 (Cy. 289)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd
Bwyd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru2 ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.