NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206) (Cy. 48) (“Rheoliadau 2020”), sy’n rhoi effaith i—

(a)Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4), a

(b)Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2)(g) (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sancsiynau sifil mewn cysylltiad â throseddau a nodir yn Rhan 11 o Reoliadau 2020. Mae’r gyfres o sancsiynau sydd ar gael i’r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru yw’r “awdurdod priodol” yng Nghymru) yn cynnwys hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer a hysbysiadau stop, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau ariannol penodedig, yn ogystal â’r gallu i dderbyn ymgymeriadau trydydd parti ac ymgymeriadau gorfodi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.