2020 Rhif 1302 (Cy. 287)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 19831 ac adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982

sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 a’r pwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.