xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)) (“Rheoliadau Rhif 4”). Maent hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237 (Cy. 279)).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—

(a)caniatáu i berson y mae’n ofynnol iddo ynysu o dan reoliad 12A o ganlyniad i’r ffaith iddo fod yn Nenmarc, neu fod ar yr un aelwyd â pherson sydd wedi bod yn Nenmarc, adael y man lle y mae’n ynysu er mwyn ymadael â Chymru;

(b)mewnosod rheoliad 12B newydd yn y Rheoliadau hynny i wahardd unrhyw awyren neu long sy’n dod yn uniongyrchol o Ddenmarc rhag cyrraedd Cymru ac eithrio am resymau diogelwch;

(c)ychwanegu Bahrain, Cambodia, Chile, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Gwlad yr Iâ, Laos, Qatar ac Ynysoedd Turks a Caicos at y rhestr o weledydd a thiriogaethau esempt;

(d)hepgor Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus a Gwlad Groeg i gyd, ac eithrio ynysoedd Corfu, Creta, Kos, Ródhos a Zakynthos, o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt;

(e)gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol eraill.

Mae rheoliad 3 yn darparu nad yw’r rheoliad 12B newydd o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys pan fo taith awyren neu long wedi cychwyn cyn y daeth rheoliad 12B i rym.

Mae rheoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â’r gwledydd a’r tiriogaethau y mae eu statws wedi newid. Mae’r darpariaethau trosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2(5) i (8) o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Rhif 4 er mwyn—

(a)darparu y caiff person y mae’n ofynnol iddo beidio â gadael y man lle y mae’n byw o dan reoliad 18A o Reoliadau Rhif 4 (darpariaeth sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar) adael y man hwnnw er mwyn ymadael â Chymru;

(b)gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol eraill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.