NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/370 (Cy. 91))) sy’n diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru a pharth Cymru, ym meysydd pysgodfeydd a rheoli morol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro gwall yn rheoliad 3 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wnaed i Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/559 (Cy. 81)).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth sydd yn amnewid y cywiriadau a wneir gan reoliad 4 o Reoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r DU) 2019, sy’n ymwneud â diwygiadau a wneir i Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/665 (Cy. 182)), er mwyn adlewyrchu telerau Cytundeb Ymadael y DU â’r UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.