(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (gyda’i gilydd “Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4”).
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae 3 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau sy’n ymwneud â Denmarc yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel rheoliad 12A newydd. Mae hyn yn darparu pan fydd person wedi bod yn Nenmarc yn ystod y 14 diwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar neu ar ôl 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, nad yw’r categorïau o bersonau esempt y rhestrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, ac yn nodi amgylchiadau mwy cyfyngedig lle y gall person adael ei ynysu dros dro. Mae’r gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i unrhyw aelodau o aelwyd lle mae’r person yn ynysu.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar yn Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4. Mae’r darpariaethau hyn yn darparu, pan fo person yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020 ar ôl cyrraedd o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben yn union cyn yr amser hwnnw ac wedi bod yn Nenmarc yn ystod y cyfnod hwnnw, fod angen i’r person hwnnw ac unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw ynysu am gyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd y person Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn