Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1237 (Cy. 279)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 3.33 a.m. ar 7 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);

(b)ystyr “Rheoliadau Rhif 3” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (3);

(c)ystyr “Rheoliadau Rhif 4” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (4).

RHAN 2Diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â Denmarc

2.  Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.), ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—

Rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Ddenmarc

12A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—

(a)wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc, neu

(b)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(3) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.

(4) Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).

(5) Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.

(6) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.

(7) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (6)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—

(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—

(a)am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(ii)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.

RHAN 3Rheoliadau Rhif 3 a Rheoliadau Rhif 4

Diwygiadau i Reoliadau Rhif 3 sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar

3.—(1Mae Rheoliadau Rhif 3 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar

9A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac

(c)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.

(2) Nid yw rheoliadau 3 i 7 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.

(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.

(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—

(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;

(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.

(3Yn rheoliad 24(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.

(4Yn rheoliad 26(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.

(5Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “5(1)” mewnosoder “, 9A(3)”.

Diwygiadau i Reoliadau Rhif 4 sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar

4.—(1Mae Rheoliadau Rhif 4 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—

PENNOD 3Darpariaeth arbennig sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar

Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar

18A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac

(c)wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.

(2) Nid yw rheoliadau 4, 6 a 9 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.

(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.

(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—

(a)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol;

(b)os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;

(c)er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.

(3Yn rheoliad 28(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.

(4Yn rheoliad 31(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.

(5Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “16” insert “, 18A(3)”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, un o Weinidogion Cymru

Am 3.33 a.m. ar 7 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (gyda’i gilydd “Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4”).

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 3 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau sy’n ymwneud â Denmarc yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel rheoliad 12A newydd. Mae hyn yn darparu pan fydd person wedi bod yn Nenmarc yn ystod y 14 diwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar neu ar ôl 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, nad yw’r categorïau o bersonau esempt y rhestrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, ac yn nodi amgylchiadau mwy cyfyngedig lle y gall person adael ei ynysu dros dro. Mae’r gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i unrhyw aelodau o aelwyd lle mae’r person yn ynysu.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar yn Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4. Mae’r darpariaethau hyn yn darparu, pan fo person yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020 ar ôl cyrraedd o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben yn union cyn yr amser hwnnw ac wedi bod yn Nenmarc yn ystod y cyfnod hwnnw, fod angen i’r person hwnnw ac unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw ynysu am gyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd y person Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn