Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
(b)
(c)
RHAN 2Diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â Denmarc2.
“Rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Ddenmarc12A.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—
(a)
wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc, neu
(b)
wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2)
Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(3)
Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(4)
Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(5)
Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(6)
At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.
(7)
Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (6)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—“(4)
Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)
am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii)
i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;
(b)
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.”
RHAN 3Rheoliadau Rhif 3 a Rheoliadau Rhif 4
Diwygiadau i Reoliadau Rhif 3 sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar3.
(1)
Mae Rheoliadau Rhif 3 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
“Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar9A.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b)
wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c)
wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2)
Nid yw rheoliadau 3 i 7 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3)
Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4)
Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a)
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b)
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c)
er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.”
(3)
Yn rheoliad 24(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.
(4)
Yn rheoliad 26(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.
(5)
Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “5(1)” mewnosoder “, 9A(3)”.
Diwygiadau i Reoliadau Rhif 4 sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar4.
(1)
Mae Rheoliadau Rhif 4 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
“PENNOD 3Darpariaeth arbennig sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar
Cyfyngiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar18A.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b)
wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c)
wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2)
Nid yw rheoliadau 4, 6 a 9 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3)
Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4)
Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a)
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol;
(b)
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c)
er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.”
(3)
Yn rheoliad 28(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.
(4)
Yn rheoliad 31(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.
(5)
Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “16” insert “, 18A(3)”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (gyda’i gilydd “Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4”).
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae 3 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau sy’n ymwneud â Denmarc yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel rheoliad 12A newydd. Mae hyn yn darparu pan fydd person wedi bod yn Nenmarc yn ystod y 14 diwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar neu ar ôl 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, nad yw’r categorïau o bersonau esempt y rhestrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, ac yn nodi amgylchiadau mwy cyfyngedig lle y gall person adael ei ynysu dros dro. Mae’r gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i unrhyw aelodau o aelwyd lle mae’r person yn ynysu.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi bod yn Nenmarc yn ddiweddar yn Rheoliadau Cyfyngu Rhif 3 a Rhif 4. Mae’r darpariaethau hyn yn darparu, pan fo person yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020 ar ôl cyrraedd o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben yn union cyn yr amser hwnnw ac wedi bod yn Nenmarc yn ystod y cyfnod hwnnw, fod angen i’r person hwnnw ac unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw ynysu am gyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd y person Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn