2020 Rhif 1211 (Cy. 273)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(5), 10(6), 11(5), 15(1), 16(1), 17(1), 17(3), 18(2), 28(7) a 123(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 20171 a pharagraffau 5, 6 a 9 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 123(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru2 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dehongli

1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2021.

2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

    1. a

      awyren, na

    2. b

      llong neu hofrenfad y gellid gwneud rheoliadau mewn perthynas ag ef o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnach 19953 gan gynnwys yr adran honno fel y’i cymhwysir gan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofrenfadau 19684;

    ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

2

Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.

Ystyr “caeedig”, “sylweddol gaeedig” ac “nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig”3

1

At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf—

a

mae mangre, neu ran o fangre, yn gaeedig—

i

os oes ganddi nenfwd neu do, a

ii

ac eithrio drysau, ffenestri a choridorau, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro;

b

mae cerbyd, neu ran o gerbyd, yn gaeedig—

i

os oes ganddo do, a

ii

ac eithrio drysau a ffenestri, os yw’n gwbl gaeedig naill ai’n barhaol neu dros dro.

2

At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, mae mangre, neu ran o fangre, yn sylweddol gaeedig—

a

os oes ganddi nenfwd neu do, a

b

os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy’n cyflawni diben waliau ac yn ffurfio perimedr y fangre.

3

Wrth gyfrifo cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau at ddibenion paragraff (2)(b), nid yw agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor a’u cau i’w hystyried.

4

Yn y rheoliad hwn, mae “to” yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol sy’n gallu gorchuddio’r cyfan neu ran o’r fangre neu’r cerbyd fel to.

5

At ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf, nid yw mangre neu ran o fangre “yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig” os nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig o fewn ystyr paragraffau (1) a (2).

RHAN 2MANGREOEDD DI-FWG: ESEMPTIADAU AC ARWYDDION

PENNOD 1Esemptiadau

Anheddau: esemptiadau4

1

Mae mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd, neu ran o fangre o’r fath, a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg oni bai bod y fangre yn dod o fewn paragraff (2) neu (5).

2

Mae mangreoedd yn dod o fewn y paragraff hwn os ydynt yn ddi-fwg oherwydd eu bod yn weithleoedd o fewn adran 7(2)(a) o’r Ddeddf a bod naill ai amod 1 neu 2 wedi ei fodloni.

3

Mae amod 1 wedi ei fodloni os nad yw un neu ragor o’r personau sy’n gweithio yn y fangre yn byw yn yr annedd.

4

Mae amod 2 wedi ei fodloni os yw’r personau sy’n gweithio yn y fangre i gyd yn byw yn yr annedd ac y gallai aelodau o’r cyhoedd fynd i’r annedd at ddibenion ceisio neu gael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio yn yr annedd.

5

Mae mangreoedd yn dod o fewn y paragraff hwn os ydynt yn ddi-fwg oherwydd eu bod yn weithleoedd o fewn adran 7(2)(b) o’r Ddeddf.

Llety gwyliau neu lety dros dro:esemptiadau5

1

Mae mangreoedd—

a

nas defnyddir i unrhyw raddau fel annedd, a

b

sy’n llety preswyl hunangynhwysol a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf,

i’w trin fel pe na baent yn ddi-fwg ar unrhyw adeg y defnyddir y mangreoedd fel llety at ddibenion gwyliau neu at ddibenion dros dro.

2

Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion:ystafelloedd dynodedig6

1

Mae ystafell mewn mangre sy’n gartref gofal i oedolion neu’n hosbis i oedolion a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg os yw amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal am y fangre—

a

yn dynodi’r ystafell yn un y caniateir i breswylwyr y cartref gofal i oedolion neu’r hosbis i oedolion sy’n 18 oed neu’n hŷn (a dim personau eraill) ysmygu ynddi, a

b

yn cadw cofnod o bob ystafell sydd wedi ei dynodi felly.

3

Amod 2 yw—

a

bod gan yr ystafell nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd,

b

nad oes gan yr ystafell system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre,

c

nad oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn union ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d

bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir yn ystafell y caniateir ysmygu ynddi.

4

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre dynnu dynodiad yn ôl ar unrhyw adeg.

Cyfleusterau ymchwilio a phrofi:ystafelloedd dynodedig7

1

Mae ystafell mewn mangre sy’n gyfleuster ymchwilio a phrofi a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg os yw amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal am y fangre—

a

yn dynodi’r ystafell yn un y caniateir ysmygu ynddi, a

b

yn cadw cofnod o bob ystafell sydd wedi ei dynodi felly.

3

Amod 2 yw bod yr ystafell yn cael ei defnyddio ar gyfer profion ac ymchwil sy’n ymwneud â’r canlynol—

a

allyriadau ysmygu,

b

datblygu cynhyrchion ar gyfer ysmygu â llai o berygl o ran tân,

c

cynnal profion diogelwch tân ar ddeunyddiau sy’n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer ysmygu,

d

datblygu cynhyrchion ysmygu neu fferyllol a allai olygu gweithgynhyrchu cynhyrchion llai peryglus ar gyfer ysmygu, neu

e

rhaglenni rhoi’r gorau i ysmygu.

4

Amod 3 yw—

a

bod gan yr ystafell nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd,

b

nad oes gan yr ystafell system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre,

c

nad oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn union ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d

bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir yn ystafell y caniateir ysmygu ynddi.

5

Nid yw’r ystafell i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg ond pan y’i defnyddir at ddibenion y profion a’r ymchwil y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

6

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre dynnu dynodiad yn ôl ar unrhyw adeg.

Unedau iechyd meddwl:esemptiad dros dro8

1

Mae ystafell mewn mangre sy’n uned iechyd meddwl a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg os yw amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal am y fangre—

a

yn dynodi’r ystafell yn un y caniateir i gleifion yr uned iechyd meddwl sy’n 18 oed neu’n hŷn (a dim person arall) ysmygu ynddi, a

b

yn cadw cofnod o bob ystafell sydd wedi ei dynodi felly.

3

Amod 2 yw—

a

bod gan yr ystafell nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd,

b

nad oes gan yr ystafell system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre,

c

nad oes gan yr ystafell ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn union ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d

bod yr ystafell wedi ei marcio’n glir yn ystafell y caniateir ysmygu ynddi.

4

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre dynnu dynodiad yn ôl ar unrhyw adeg.

5

Yn y rheoliad hwn, ystyr “uned iechyd meddwl” yw mangre, neu ran o fangre, a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer derbyn a thrin personau sy’n dioddef o anhwylder meddyliol fel y diffinnir “mental disorder” yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 19835 ond nid yw’n cynnwys cartref gofal i oedolion.

6

Mae paragraffau (1) i (5) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Gwestai, tai llety, tafarnau, hostelau a chlybiau aelodau: esemptiad dros dro9

1

Mae ystafell wely mewn mangre sy’n westy, tŷ llety, tafarn, hostel neu glwb aelodau a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu 8 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe na bai’n ddi-fwg os yw amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal am y fangre—

a

yn dynodi’r ystafell wely yn un y caniateir ysmygu ynddi, a

b

yn cadw cofnod o bob ystafell sydd wedi ei dynodi felly.

3

Amod 2 yw—

a

bod gan yr ystafell wely nenfwd a’i bod, ac eithrio drysau a ffenestri, yn gwbl gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd,

b

nad oes gan yr ystafell wely system awyru sy’n awyru i ran ddi-fwg o’r fangre,

c

nad oes gan yr ystafell wely ddrysau nad ydynt yn cau’n fecanyddol yn union ar ôl eu defnyddio os ydynt yn agor i ardaloedd di-fwg, a

d

bod yr ystafell wely wedi ei marcio’n glir yn ystafell y caniateir ysmygu ynddi.

4

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre dynnu dynodiad yn ôl ar unrhyw adeg.

5

Mae paragraffau (1) i (4) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Tir ysgolion sy’n darparu llety preswyl i ddisgyblion:ardaloedd dynodedig10

1

Cyn y caniateir i ardal o fewn paragraff (2) gael ei dynodi o dan adran 10(5) o’r Ddeddf yn ardal y caniateir ysmygu ynddi ac felly y’i trinnir fel pe na bai’n ddi-fwg, rhaid bodloni amodau 1 a 2.

2

Mae ardal o fewn y paragraff hwn os yw’n ardal mewn mangre sy’n dir sy’n cydffinio ag ysgol sy’n darparu llety preswyl i ddisgyblion a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 10 o’r Ddeddf.

3

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal am y fangre yn pennu personau neu ddisgrifiadau o bersonau (“person a ganiateir”) a gaiff ddefnyddio’r ardal ond ni chaniateir pennu plentyn.

4

Amod 2 yw—

a

nad yw’r ardal yn fwy nag 8.25 metr sgwâr,

b

bod yr ardal o leiaf 10 metr o unrhyw fangre arall sy’n ddi-fwg yn rhinwedd y Ddeddf (ac eithrio’r fangre o fewn paragraff (2)), ac

c

bod yr ardal wedi ei marcio’n glir yn ardal y caiff person a ganiateir ysmygu ynddi.

5

Rhaid i’r person a chanddo ofal am y fangre gadw cofnod o bob un o’r ardaloedd sydd wedi eu dynodi o dan adran 10(5) o’r Ddeddf ac o bersonau a ganiateir.

6

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre amrywio dynodiad neu ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

Tir ysbytai: ardaloedd dynodedig11

1

Cyn y caniateir i ardal o fewn paragraff (2) gael ei dynodi o dan adran 11(4) o’r Ddeddf yn ardal y caniateir ysmygu ynddi ac felly y’i trinnir fel pe na bai’n ddi-fwg, rhaid bodloni amodau 1 a 2.

2

Mae ardal o fewn y paragraff hwn os yw’n ardal mewn mangre sy’n dir ysbyty6 a fyddai (oni bai am y rheoliad hwn) yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 11 o’r Ddeddf.

3

Amod 1 yw bod y person a chanddo ofal yn pennu personau neu ddisgrifiadau o bersonau (“person a ganiateir”) a gaiff ddefnyddio’r ardal ond ni chaniateir pennu plentyn.

4

Amod 2 yw—

a

nad yw’r ardal yn fwy nag 8.25 metr sgwâr,

b

bod yr ardal o leiaf 10 metr o unrhyw fangre arall sy’n ddi-fwg yn rhinwedd y Ddeddf (ac eithrio’r fangre o fewn paragraff (2)), ac

c

bod yr ardal wedi ei marcio’n glir yn ardal y caiff person a ganiateir ysmygu ynddi.

5

Rhaid i’r person a chanddo ofal am y fangre gadw cofnod o bob un o’r ardaloedd sydd wedi eu dynodi o dan adran 11(4) o’r Ddeddf ac o bersonau a ganiateir.

6

Caiff y person a chanddo ofal am y fangre amrywio dynodiad neu ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

Dyletswydd i atal ysmygu yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus12

Rhaid i berson a chanddo reolaeth dros fangre, neu sy’n ymwneud â rheoli mangre, sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 10 (tir ysgolion), 11 (tir ysbytai) neu 12 (meysydd chwarae cyhoeddus) o’r Ddeddf gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu yno beidio ag ysmygu.

PENNOD 2Arwyddion

Mangreoedd di-fwg sy’n weithleoedd neu sydd ar agor i’r cyhoedd:arwyddion13

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 neu adran 8 o’r Ddeddf.

2

Rhaid arddangos o leiaf un arwydd at ddibenion adran 17(1) o’r Ddeddf a rhaid iddo gynnwys darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.

3

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fangreoedd a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd.

Tir ysgolion, tir ysbytai, a meysydd chwarae cyhoeddus:arwyddion14

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

a

mangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 10 o’r Ddeddf ac sy’n cydffinio â’r ysgol o dan sylw (“tir ysgolion”),

b

mangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 11 o’r Ddeddf (“tir ysbytai”), ac

c

mangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 12 o’r Ddeddf (“meysydd chwarae cyhoeddus”).

2

Rhaid arddangos o leiaf un arwydd yn y fangre at ddibenion adran 17(1) o’r Ddeddf a rhaid iddo—

a

cynnwys darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét,

b

cael ei arddangos—

i

yn achos tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, mewn lle amlwg wrth neu gerllaw’r brif fynedfa, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, bob un ohonynt, a

ii

yn achos meysydd chwarae cyhoeddus nad ydynt o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, mewn lle amlwg gerllaw’r maes chwarae, ac

c

cynnwys y testun rhybuddio priodol.

3

Y “testun rhybuddio priodol” yw—

a

ar gyfer tir ysgolion, “Mae ysmygu yn nhir yr ysgol hon yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in these school grounds”;

b

ar gyfer tir ysbytai, “Mae ysmygu yn nhir yr ysbyty hwn yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in these hospital grounds”;

c

ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, “Mae ysmygu yn y maes chwarae hwn yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke in this playground”;

d

ar gyfer meysydd chwarae cyhoeddus nad ydynt o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, “Mae ysmygu o fewn 5 metr i’r cyfarpar chwarae hwn yn erbyn y gyfraith/It is against the law to smoke within 5 metres of this play equipment”.

RHAN 3CERBYDAU DI-FWG

Cerbydau di-fwg15

1

Mae cerbyd sy’n gaeedig, ac unrhyw ran o gerbyd sy’n gaeedig, i’w drin fel pe bai’n ddi-fwg os yw paragraff (2) neu (3) yn gymwys.

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r cerbyd yn un a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghwrs gwaith am dâl neu waith gwirfoddol ac y’i defnyddir—

a

gan fwy nag un person (hyd yn oed os yw’r personau sy’n ei ddefnyddio yn gwneud hynny ar adegau gwahanol neu’n ysbeidiol), neu

b

i gludo aelodau o’r cyhoedd neu garfan o’r cyhoedd.

3

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os nad yw’r cerbyd o fewn paragraff (2) ac y’i defnyddir—

a

yng nghwrs gwaith am dâl neu waith gwirfoddol a bod mwy nag un person yn bresennol yn y cerbyd a bod un o’r rheini yn bresennol at ddiben cael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth y person sy’n defnyddio’r cerbyd, neu

b

at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill a bod mwy nag un person yn bresennol yn y cerbyd a bod un o’r personau hynny yn blentyn.

4

Mae cerbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd paragraff (2) yn ddi-fwg drwy’r amser.

5

Nid yw cerbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd paragraff (3) ond yn ddi-fwg pan yw’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio fel y’i disgrifir yn y paragraff hwnnw.

Cerbydau di-fwg: esemptiadau16

1

Nid yw cerbyd i’w drin fel pe bai’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 15(3)(b) os yw’n garafán neu’n garafán fodur—

a

sy’n sefydlog ac nad yw ar ffordd, neu

b

sy’n sefydlog, sydd ar ffordd ac sy’n cael ei defnyddio fel llety preswyl.

2

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “carafán” (“caravan”) yw trelar sydd wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio ar y ffordd ac sy’n darparu llety preswyl symudol;

  • ystyr “carafán fodur” (“motor caravan”) yw cerbyd modur sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu er mwyn cludo teithwyr a’u heiddo personol ac sy’n cynnwys, yn offer sydd wedi eu gosod yn barhaol, y cyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol i alluogi’r cerbyd i ddarparu llety preswyl symudol i’w ddefnyddwyr;

  • mae i “ffordd” yr ystyr a roddir i “road” gan adran 192(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 19887.

Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbyd di-fwg17

Rhaid i’r personau a ganlyn gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu mewn cerbyd a drinnir fel pe bai’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 15 beidio ag ysmygu—

a

gyrrwr neu weithredwr cerbyd a drinnir fel pe bai’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 15, a

b

person sy’n ymwneud â rheoli cerbyd o’r fath.

Cerbydau di-fwg: arwyddion18

1

Rhaid i yrrwr a gweithredwr cerbyd a drinnir fel pe bai’n gerbyd di-fwg yn rhinwedd rheoliad 15(2), a pherson sy’n ymwneud â rheoli cerbyd o’r fath, sicrhau bod arwydd yn cael ei arddangos yn y cerbyd yn unol â pharagraff (2).

2

Rhaid i’r arwydd gynnwys darlun graffig eglur o sigarét yn llosgi o fewn cylch gyda bar ar draws y cylch sy’n croesi symbol y sigarét.

RHAN 4GORFODI

Awdurdod gorfodi:yr heddlu19

Mae prif swyddog heddlu ardal heddlu wedi ei awdurdodi i weithredu fel awdurdod gorfodi mewn perthynas â cherbydau yn ei ardal sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 15(3)(b) (cerbydau sy’n cael eu defnyddio at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill pan fo plentyn yn bresennol).

Symiau’r gosb benodedig20

Symiau’r gosb benodedig a bennir at ddibenion paragraff 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yw—

a

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 17(5) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag arddangos arwydd), £200,

b

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 5(1) o’r Ddeddf (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu mewn cerbyd di-fwg), £100, ac

c

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 6(6) o’r Ddeddf mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y dibenion a grybwyllir yn adran 27(4) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill pan fo plentyn yn bresennol), £100.

Symiau’r gosb benodedig: symiau gostyngol21

Y symiau gostyngol a bennir at ddibenion paragraff 9 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yw—

a

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 17(5) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag arddangos arwydd), £150,

b

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 5(1) o’r Ddeddf (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu mewn cerbyd di-fwg), £75, ac

c

mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 6(6) o’r Ddeddf mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y dibenion a grybwyllir yn adran 27(4) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill pan fo plentyn yn bresennol), £75.

Ffurf hysbysiadau cosb benodedig22

1

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig fod ar y ffurf a bennir yn Atodlen 1 mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 17(5) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag arddangos arwydd).

2

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig fod ar y ffurf a bennir yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â throsedd o dan—

a

adran 5(1) o’r Ddeddf (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu mewn cerbyd di-fwg), a

b

adran 6(6) o’r Ddeddf (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill pan fo plentyn yn bresennol).

3

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn atal awdurdod gorfodi rhag cynnwys ar ffurflen hysbysiad cosb benodedig—

a

gwybodaeth am y dull talu,

b

gwybodaeth i hwyluso prosesu ariannol a gweinyddol y ffurflenni, ac

c

arfbeisiau, logos neu ddyfeisiau eraill i gynrychioli’r awdurdod.

RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIRYMIADAU

Diwygio Rheoliadau Di-fwg (Cosbau a Symiau Gostyngol) 200723

1

Mae Rheoliadau Di-fwg (Cosbau a Symiau Gostyngol) 20078 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 1—

a

yn lle paragraff (2), rhodder—

2

These regulations only apply to premises, places and vehicles in England.

b

ym mharagraff (3), hepgorer “and in Wales on 2nd April 2007”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 201824

Hepgorer paragraff 16 o Atodlen 1 i Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 20189.

Dirymiadau25

Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 200710;

b

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 201511;

c

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 201612.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENNI

ATODLEN 1

Rheoliad 22(1)

Image_r00001

Image_r00002

Image_r00003

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

Image_r00007

ATODLEN 2

Rheoliad 22(2)

Image_r00008

Image_r00009

Image_r00010

Image_r00011

Image_r00012

Image_r00013

Image_r00014

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 200713.

Mae Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”)14 yn gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar ysmygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus (ymhlith mannau eraill). Mae “ysmygu” i’w ddarllen yn unol ag adran 4 o’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn esemptio mangreoedd penodol o’r gofyniad i fod yn ddi-fwg o dan y Ddeddf ac maent yn nodi’r amgylchiadau y mae cerbydau i’w trin fel pe baent yn ddi-fwg odanynt. Mae i “mangre” yr ystyr a roddir gan adran 28 o’r Ddeddf. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch arddangos arwyddion a darpariaeth sy’n ymwneud â gorfodi.

Mae rheoliad 3 yn diffinio “caeedig” a “sylweddol gaeedig”. O dan y Ddeddf, gosodir y gofyniad i fod yn ddi-fwg mewn perthynas â gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig.

Mae rheoliad 4(1) yn darparu nad yw mangreoedd a ddefnyddir i unrhyw raddau fel anheddau i’w trin fel pe baent yn ddi-fwg oni bai bod rheoliad 4(2) neu 4(5) yn gymwys (anheddau penodol a ddefnyddir fel mannau gwaith).

Mae rheoliad 5 yn darparu bod llety gwyliau a llety dros dro i’w trin fel pe na baent yn ddi-fwg. Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fangreoedd nad ydynt yn anheddau (oherwydd bod unrhyw fangreoedd o’r fath yn dod o fewn rheoliad 4). Mae’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith 12 mis ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 6 i 9 yn darparu y caniateir i ystafelloedd mewn cartrefi gofal i oedolion, hosbisau i oedolion (rheoliad 6), cyfleusterau ymchwilio a phrofi (rheoliad 7) ac unedau iechyd meddwl (rheoliad 8) ac ystafelloedd gwely mewn gwestai, tai llety, tafarnau, hostelau a chlybiau aelodau (rheoliad 9) sy’n bodloni amodau penodol gael eu dynodi yn ystafelloedd y caniateir ysmygu ynddynt. Ond mae dynodiad o ystafell mewn uned iechyd meddwl yn peidio â chael effaith 18 mis ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ac mae dynodiad o ystafell wely mewn gwesty, tŷ llety, tafarn, hostel a chlwb aelodau yn peidio â chael effaith 12 mis ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Mae adrannau 10 i 12 o’r Ddeddf yn darparu i dir ysbytai, tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus fod yn ddi-fwg. Mae rheoliadau 10 ac 11 yn darparu’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i ardal yn nhir ysgol sy’n darparu llety preswyl ac yn nhir ysbyty gael ei dynodi yn ardal y caniateir ysmygu ynddi.

Mae rheoliad 12 yn darparu bod rhaid i berson a chanddo reolaeth dros fangre ddi-fwg neu sy’n ymwneud â rheoli mangre ddi-fwg gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu yno beidio ag ysmygu.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i arwyddion gael eu harddangos mewn mangreoedd sy’n weithleoedd neu sydd ar agor i’r cyhoedd ac mae’n pennu eu cynnwys.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i arwyddion gael eu harddangos yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus ac mae’n pennu eu cynnwys.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod cerbydau penodol yn cael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg. Mae cerbydau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghwrs gwaith gan fwy nag un person neu i gludo aelodau o’r cyhoedd yn ddi-fwg drwy’r amser. Nid yw cerbydau eraill nad ydynt yn ddi-fwg drwy’r amser ond yn ddi-fwg pan yw person yn y cerbyd yn cael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth berson arall sydd hefyd yn y cerbyd a phan yw plentyn yn y cerbyd. Mae rheoliad 16 yn darparu esemptiad o hyn. Yn y Rheoliadau hyn, mae “plentyn” yn berson o dan 18 oed (gweler adran 28 o’r Ddeddf).

Mae rheoliad 17 yn darparu bod gan yrrwr, gweithredwr neu berson sy’n ymwneud â rheoli cerbyd di-fwg ddyletswydd i atal ysmygu yn y cerbyd hwnnw.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i arwyddion gael eu harddangos mewn cerbydau di-fwg penodol ac mae’n pennu eu cynnwys.

Mae rheoliad 19 yn dynodi prif swyddog heddlu ardal heddlu yn awdurdod gorfodi mewn perthynas â cherbydau sy’n ddi-fwg yn rhinwedd eu defnyddio at ddibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill pan fo plentyn yn bresennol. Mae awdurdodau lleol eisoes yn awdurdodau gorfodi o dan adran 18 o’r Ddeddf mewn perthynas â mangreoedd, mannau a cherbydau yn eu hardaloedd.

Mae rheoliad 20 yn darparu symiau’r gosb benodedig mewn cysylltiad â throseddau penodol, ac mae rheoliad 21 yn darparu’r symiau cosb gostyngol mewn cysylltiad â throseddau penodol. Mae rheoliad 22 yn cyflwyno ffurflen hysbysiadau cosb benodedig y mae rhaid i’r awdurdodau gorfodi ei defnyddio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.