xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”), yn benodol Rhan 4 oʼr prif Reoliadau syʼn ymwneud â rhestri cyflawnwyr deintyddol, er mwyn adlewyrchuʼr newid yn sefyllfa cyflogaeth deintyddion sylfaen.

Ar hyn o bryd, maeʼr prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddeintydd sylfaen, at ddibenion ymgymryd â hyfforddiant sylfaen, fod wedi ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau gyda hyfforddwr cymeradwy, syʼn ddeintydd at ddibenion y prif Reoliadau.

O 1 Medi 2020, nid oes gan ddeintyddion sylfaen gontract cyflogaeth gyda hyfforddwr cymeradwy mwyach. Yn hytrach, bydd eu contract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan gyfarwyddyd pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a fydd yn gweithredu fel un cyflogwr arweiniol dros bob deintydd sylfaen yng Nghymru.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygioʼr prif Reoliadau er mwyn sicrhau bod y darpariaethau deddfwriaethol cymwys yn cyd-fynd âʼr newid mewn polisi.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 28 (dehongli) oʼr prif Reoliadau. Maeʼn diwygioʼr diffiniadau o “approved trainer” a “foundation training” i adlewyrchuʼr symud i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan gyfarwyddyd pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel un cyflogwr arweiniol dros ddeintyddion sylfaen. Mae diffiniadau o “HEIW”, “NWSSP committee” a “Velindre University NHS Trust” hefyd wedi eu mewnosod yn rheoliad 28 oʼr prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 30 oʼr prif Reoliadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol na chaiff deintyddion sylfaen, fel rhan oʼr ymgymeriadau y maeʼn ofynnol iʼr deintydd sylfaen eu rhoi yn rheoliad 30(2), gyflawni unrhyw wasanaethau deintyddol sylfaenol ac eithrio wrth weithredu yn unol âʼu contract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.