2020 Rhif 1194 (Cy. 271)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 20131, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 20192

1

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 20192 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 4(1) (cyfnod para cynlluniau deng mlynedd)—

a

yn lle “1 Medi 2021” rhodder “1 Medi 2022”;

b

yn lle “31 Awst 2031” rhodder “31 Awst 2032”.

3

Yn rheoliad 5(1) (cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “31 Ionawr 2022”.

4

Yn rheoliad 7 (adroddiad adolygu blynyddol)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “2022” rhodder “2023”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “31 Gorffennaf 2022” rhodder “31 Gorffennaf 2023”.

Kirsty WilliamsY Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1489 (Cy. 269)) (“Rheoliadau 2019”) fel bod y gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno eu cynllun deng mlynedd cyntaf erbyn 31 Ionawr 2021 wedi ei ddiwygio i 31 Ionawr 2022. O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd y cynllun 10 mlynedd cyntaf hwnnw yn cael effaith ar 1 Medi 2022 tan 31 Awst 2032 (yn hytrach na 1 Medi 2021 tan 31 Awst 2031).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad i gyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 fel bod yr adroddiad adolygu cyntaf i’w gyflwyno heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2023.

Mae’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru a’r pwysau o ganlyniad i hynny ar awdurdodau lleol. O ganlyniad nid ystyrir ei bod yn rhesymol nac yn briodol ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau yn unol â Rheoliadau 2019 ac ymgynghori arnynt cyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo erbyn 31 Ionawr 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran y Gymraeg, Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.