Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1194 (Cy. 271)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

2 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(1) (cyfnod para cynlluniau deng mlynedd)—

(a)yn lle “1 Medi 2021” rhodder “1 Medi 2022”;

(b)yn lle “31 Awst 2031” rhodder “31 Awst 2032”.

(3Yn rheoliad 5(1) (cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “31 Ionawr 2022”.

(4Yn rheoliad 7 (adroddiad adolygu blynyddol)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “2022” rhodder “2023”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “31 Gorffennaf 2022” rhodder “31 Gorffennaf 2023”.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1489 (Cy. 269)) (“Rheoliadau 2019”) fel bod y gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno eu cynllun deng mlynedd cyntaf erbyn 31 Ionawr 2021 wedi ei ddiwygio i 31 Ionawr 2022. O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd y cynllun 10 mlynedd cyntaf hwnnw yn cael effaith ar 1 Medi 2022 tan 31 Awst 2032 (yn hytrach na 1 Medi 2021 tan 31 Awst 2031).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad i gyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 fel bod yr adroddiad adolygu cyntaf i’w gyflwyno heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2023.

Mae’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru a’r pwysau o ganlyniad i hynny ar awdurdodau lleol. O ganlyniad nid ystyrir ei bod yn rhesymol nac yn briodol ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau yn unol â Rheoliadau 2019 ac ymgynghori arnynt cyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo erbyn 31 Ionawr 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran y Gymraeg, Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources