Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw fel bod nifer aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lleihau o 24 i 18. Mae cyfanswm nifer yr aelodau yn cynnwys 12 o aelodau awdurdod lleol a 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.