Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 119 (Cy. 21)
Cefn Gwlad, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed
4 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Chwefror 2020
Yn dod i rym
1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) a pharagraffau 1(2) a (3), a 2(1) a (2) o Atodlen 7 iddi, ar ôl ymgynghori â’r cynghorau ar gyfer pob prif ardal y mae rhan ohoni’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unol â pharagraff 2(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2).
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995
2.—(1) Mae Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn lle—
“Brecon Beacons National Park Authority
| Local authority members | 16 |
| Secretary of State members | 8 |
| Total number of members | 24” |
rhodder—
“Brecon Beacons National Park Authority
| Local authority members | 12 |
| Secretary of State members | 6 |
| Total number of members | 18” |
(3) Yn Rhan 2 o Atodlen 2, yn lle—
“Brecon Beacons National Park Authority
| Council of a principal area | Number of members |
|---|---|
| Blaenau Gwent County Borough Council | 1 |
| Carmarthenshire County Council | 2 |
| Merthyr Tydfil County Borough Council | 1 |
| Monmouthshire County Council | 2 |
| Powys Council | 8 |
| Rhondda, Cynon, Taff County Borough Council | 1 |
| Torfaen County Borough Council | 1” |
rhodder—
“Brecon Beacons National Park Authority
| Council of a principal area | Number of members |
|---|---|
| Blaenau Gwent County Borough Council | 1 |
| Carmarthenshire County Council | 1 |
| Merthyr Tydfil County Borough Council | 1 |
| Monmouthshire County Council | 1 |
| Powys Council | 6 |
| Rhondda Cynon Taff County Borough Council | 1 |
| Torfaen County Borough Council | 1” |
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Chwefror 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw fel bod nifer aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lleihau o 24 i 18. Mae cyfanswm nifer yr aelodau yn cynnwys 12 o aelodau awdurdod lleol a 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1995 p. 25. Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraffau 1(2) a (3) a 2(1) a (2) o Atodlen 7 iddi, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, OS 1999/672, ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.
Gweler adran 79(1) am y diffiniad o “principal area”.
