2020 Rhif 1182 (Cy. 267) (C. 33)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 20202.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020—

(a)

adran 5;

(b)

adran 15;

(c)

adran 37;

(d)

adran 39;

(e)

adrannau 45 a 46;

(f)

adran 67;

(g)

adran 74;

(h)

adran 82.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 2020 at ddiben arfer pwerau3.

(1)

Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion gwneud rheoliadau—

(a)

adran 16;

(b)

adran 21;

(c)

adran 32;

(d)

adran 36;

(e)

adran 54;

(f)

adran 56;

(g)

adran 60;

(h)

adran 65;

(i)

adrannau 75 i 77;

(j)

adran 83;

(k)

adran 85;

(l)

adrannau 912 a 92;

(m)

adran 95;

(n)

adran 96 a pharagraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) o’r Atodlen.

(2)

Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion dyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf—

(a)

adran 43;

(b)

adrannau 7 ac 8;

(c)

adran 47.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Ionawr 20214.

(1)

Daw adrannau 61 a 62 o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021.

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021 at bob diben sy’n weddill—

(a)

adran 56(1);

(b)

adran 56(4) i (6);

(c)

adran 60.

Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 yn dod i rym yn llawn ar 2 Tachwedd 2020. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, darpariaethau dehongli a darpariaethau sydd fel arall yn gysylltiedig â’r pwerau hynny i wneud is-ddeddfwriaeth.

Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 hefyd yn dod i rym ar y dyddiad hwnnw, ond dim ond at ddibenion gwneud rheoliadau, neu ddyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ar 4 Ionawr 2021 ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n gysylltiedig â dynodi swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n dwyn i rym hefyd, at bob diben sy’n weddill, ddarpariaethau sy’n gysylltiedig â’r rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr, y caiff awdurdod lleol sicrhau addysg neu hyfforddiant ynddynt ar gyfer plentyn neu berson ifanc.