Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o DCE 1972, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2020.
Diwygio Mesur Gwastraff (Cymru) 20102.
(1)
(2)
Yn adran 9(3), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
(3)
Yn adran 17(2), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20043.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3)
Yn rheoliad 7(10), yn lle “Reoliad y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20054.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)(a), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3)
Yn rheoliad 5(2), yn y diffiniad o “rheoli”, ar ôl “adfer” mewnosoder “(gan gynnwys sortio)”.
(4)
“(4)
Mae paragraff (1) yn gymwys i gymysgu olew gwastraff dim ond pan fyddai cymysgu olew o’r fath yn rhwystro atgynhyrchu neu weithrediad ailgylchu arall sy’n cyflawni canlyniad cyffredinol sy’n gyfwerth neu’n well nag atgynhyrchu.
(5)
Ym mharagraff (4)—
ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer lle y caiff deunyddiau gwastraff eu hailbrosesu yn gynhyrchion, deunyddiau neu sylweddau, boed hynny at y dibenion gwreiddiol neu ddibenion arall, gan gynnwys ailbrosesu deunydd organig ond heb gynnwys adfer ynni nac ailbrosesu ynni yn ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau;
ystyr “atgynhyrchu” (“regeneration”) yw unrhyw weithrediad ailgylchu lle y gellir cynhyrchu olewau sylfaen drwy buro olewau gwastraff, yn enwedig drwy gael gwared ar yr halogion, y cynhyrchion ocsideiddio a’r ychwanegion a gynhwysir mewn olewau o’r fath”.
(5)
Yn rheoliad 20—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn lle “Mae’r rheoliad hwn” rhodder “Mae paragraff (2)”;
(ii)
yn is-baragraff (b)(i), hepgorer “ac yn economaidd”;
(b)
“(2A)
Pan na fo gwahanu yn ofynnol yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r deiliad wneud trefniadau i drin gwastraff peryglus a gymysgwyd mewn cyfleuster a awdurdodir gan drwydded gwastraff i drin y gwastraff hwnnw.”.
(6)
Yn rheoliad 47(5B)—
(a)
yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b)
ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
(7)
Yn rheoliad 48(6B)—
(a)
yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b)
ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
Diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 20115.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20176.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 9, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”;
(b)
ym mharagraff 10, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig benodol drwy ddiweddaru cyfeiriadau yn y ddeddfwriaeth at ddwy Gyfarwyddeb gan yr UE sydd wedi eu diwygio fel rhan o’r Pecyn Economi Gylchol (“PEG”) Ewropeaidd, fel eu bod yn cyfeirio at y fersiynau diweddaraf o’r Cyfarwyddebau hynny. Mae’r PEG yn cynnwys diwygio nifer o Gyfarwyddebau gan yr UE at ddiben symud tuag at economi gylchol sy’n fwy effeithlon o ran adnoddau. Mae diwygiadau ychwanegol i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)), sy’n gweithredu rhwymedigaethau UE eraill sy’n deillio o’r Pecyn Economi Gylchol.
Y Cyfarwyddebau yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ynghylch gwastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ L 312 22.11.2008, t. 3) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”) a Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 ynghylch tirlenwi gwastraff (OJ L 182 16.7.1999, t. 1) (“y Gyfarwyddeb Dirlenwi”).
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851 (OJ L 150 14.6.2018, t. 109) a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/850 (OJ L 150 14.6.2018, t. 100).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Ar y cyd â rheoliadau’r DU a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, maent yn ffurfio rhan o drosi i gyfraith ddomestig y diwygiadau a wnaed i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (2010 mccc 8) er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Dirlenwi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Dirlenwi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)). Mae diwygiadau i reoliadau 2, 47 a 48 yn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi. Mae’r diwygiad i reoliad 5 yn rhoi effaith i newidiadau yn y diffiniad o “rheoli” gwastraff. Mae diwygiadau i reoliadau 19 a 20 yn rhoi effaith i newidiadau a wneir gan y PEG mewn perthynas â chymysgu olewau gwastraff a chymysgu gwastraff peryglus, yn y drefn honno.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1014 (Cy. 152)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/567 (Cy. 136)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol, na’r sector cyhoeddus.