Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1179 (Cy. 265)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020

Gwnaed

27 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

28 Hydref 2020

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff(3) ac atal, lleihau a rheoli gwastraff(4).

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o DCE 1972, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2020.

Diwygio Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

2.—(1Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 9(3), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.

(3Yn adran 17(2), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.

Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

3.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi 2004(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.

(3Yn rheoliad 7(10), yn lle “Reoliad y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

4.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)(a), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.

(3Yn rheoliad 5(2), yn y diffiniad o “rheoli”, ar ôl “adfer” mewnosoder “(gan gynnwys sortio)”.

(4Yn lle rheoliad 19(4) rhodder—

(4) Mae paragraff (1) yn gymwys i gymysgu olew gwastraff dim ond pan fyddai cymysgu olew o’r fath yn rhwystro atgynhyrchu neu weithrediad ailgylchu arall sy’n cyflawni canlyniad cyffredinol sy’n gyfwerth neu’n well nag atgynhyrchu.

(5) Ym mharagraff (4)—

ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer lle y caiff deunyddiau gwastraff eu hailbrosesu yn gynhyrchion, deunyddiau neu sylweddau, boed hynny at y dibenion gwreiddiol neu ddibenion arall, gan gynnwys ailbrosesu deunydd organig ond heb gynnwys adfer ynni nac ailbrosesu ynni yn ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau;

ystyr “atgynhyrchu” (“regeneration”) yw unrhyw weithrediad ailgylchu lle y gellir cynhyrchu olewau sylfaen drwy buro olewau gwastraff, yn enwedig drwy gael gwared ar yr halogion, y cynhyrchion ocsideiddio a’r ychwanegion a gynhwysir mewn olewau o’r fath.

(5Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “Mae’r rheoliad hwn” rhodder “Mae paragraff (2)”;

(ii)yn is-baragraff (b)(i), hepgorer “ac yn economaidd”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan na fo gwahanu yn ofynnol yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r deiliad wneud trefniadau i drin gwastraff peryglus a gymysgwyd mewn cyfleuster a awdurdodir gan drwydded gwastraff i drin y gwastraff hwnnw..

(6Yn rheoliad 47(5B)—

(a)yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;

(b)ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.

(7Yn rheoliad 48(6B)—

(a)yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;

(b)ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.

Diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

5.—(1Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 9, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”;

(b)ym mharagraff 10, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

27 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig benodol drwy ddiweddaru cyfeiriadau yn y ddeddfwriaeth at ddwy Gyfarwyddeb gan yr UE sydd wedi eu diwygio fel rhan o’r Pecyn Economi Gylchol (“PEG”) Ewropeaidd, fel eu bod yn cyfeirio at y fersiynau diweddaraf o’r Cyfarwyddebau hynny. Mae’r PEG yn cynnwys diwygio nifer o Gyfarwyddebau gan yr UE at ddiben symud tuag at economi gylchol sy’n fwy effeithlon o ran adnoddau. Mae diwygiadau ychwanegol i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)), sy’n gweithredu rhwymedigaethau UE eraill sy’n deillio o’r Pecyn Economi Gylchol.

Y Cyfarwyddebau yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ynghylch gwastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ L 312 22.11.2008, t. 3) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”) a Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 ynghylch tirlenwi gwastraff (OJ L 182 16.7.1999, t. 1) (“y Gyfarwyddeb Dirlenwi”).

Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851 (OJ L 150 14.6.2018, t. 109) a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/850 (OJ L 150 14.6.2018, t. 100).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Ar y cyd â rheoliadau’r DU a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, maent yn ffurfio rhan o drosi i gyfraith ddomestig y diwygiadau a wnaed i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (2010 mccc 8) er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Dirlenwi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Dirlenwi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)). Mae diwygiadau i reoliadau 2, 47 a 48 yn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Dirlenwi. Mae’r diwygiad i reoliad 5 yn rhoi effaith i newidiadau yn y diffiniad o “rheoli” gwastraff. Mae diwygiadau i reoliadau 19 a 20 yn rhoi effaith i newidiadau a wneir gan y PEG mewn perthynas â chymysgu olewau gwastraff a chymysgu gwastraff peryglus, yn y drefn honno.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1014 (Cy. 152)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/567 (Cy. 136)), er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol, na’r sector cyhoeddus.

(1)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“DLlC 2006”) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) (“DCE 1972”) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw. Mae paragraff 28(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006 yn darparu bod dynodiadau a wnaed o dan adran 2(2) o DCE 1972 yn rhinwedd adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) sydd mewn grym yn union cyn cychwyn diddymu’r is-adran honno gan DLlC 2006 yn parhau i gael effaith ar ôl cychwyn y diddymiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 59(1) o DLlC 2006.

(2)

1972 p. 68. Diddymwyd DCE 1972 gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae DCE 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o DCE 1972 yn flaenorol gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(5)

2010 mccc 8. Diwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155) a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148), 2015/1417 (Cy. 141) a 2019/414 (Cy. 96). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138) a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/2861 (Cy. 250), 2011/971 (Cy. 141), 2013/755 (Cy. 90), 2018/721 (Cy. 140) a 2019/414 (Cy. 96). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2011/1014 (Cy. 154) a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2017/567 (Cy. 136) a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1216 (Cy. 249). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources