Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20056

Yn rheoliad 30B (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “asiantaeth fabwysiadu” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes ei bod wedi cael yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26.

c

ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a) a’r “neu” sydd yn union ar ei ôl;

d

ym mharagraff (5)(c)(ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;

e

ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

5A

Pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys a bo’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw’r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn oherwydd gwybodaeth a gafwyd o dan reoliad 25 neu reoliad 26, ni chaiff y darpar fabwysiadydd wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r dyfarniad o gymhwyster.