NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddwy set o Reoliadau er mwyn llacio a diwygio gofynion a osodir odanynt. Mae’r diwygiadau yn cael eu gwneud er mwyn cynorthwyo’r sector gofal cymdeithasol i blant mewn ymateb i achosion a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru ac maent yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.

Mae rheoliadau 3 i 6 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313 (Cy. 95)), sy’n nodi’r broses ar gyfer asesu addasrwydd pobl i fabwysiadau plentyn ac addasrwydd plant i gael eu mabwysiadu. Maent yn gwneud diwygiadau i’r broses gymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr i alluogi i wybodaeth y mae rhaid ei chasglu ar hyn o bryd yn ystod cam 1 o’r broses gymeradwyo gael ei chasglu yn ystod cam 2 ac yn llacio’r amserlen pan fo rhaid ymgymryd â gweithredoedd penodol. Mae rheoliad 5 yn cywiro gwallau teipograffyddol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) i estyn y cyfnod (o 16 i 24 o wythnosau) pan ganiateir i berson sy’n berthynas i blentyn neu sy’n gysylltiedig fel arall â phlentyn gael cymeradwyaeth dros dro i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth arbed i sicrhau bod rhai o’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau i fod yn gymwys o dan amgylchiadau penodol ar ôl i’r diwygiadau ddod i ben ar 31 Mawrth 2021 yn unol â rheoliad 9.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.