2020 Rhif 1082 (Cy. 244)
Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1
1
Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
2
Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20053 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3
Yn rheoliad 27 (penderfyniad cyn asesu)—
a
ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
1A
Os na chafwyd yr wybodaeth eto sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26 caiff yr asiantaeth fabwysiadu benderfynu bwrw ymlaen fel pe bai wedi gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a).
b
ym mharagraff (2), ar ôl “rhaid i’r asiantaeth” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
c
ym mharagraff (4)—
i
yn y geiriau agoriadol, ar ôl “i fabwysiadu plentyn,” mewnosoder “neu pan fo paragraff (1A) yn gymwys,”;
ii
yn is-baragraff (b), ar ôl “rhaid iddo” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”.
4
Yn rheoliad 28 (asesiad cam 2)—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn lle “o fewn chwe mis i’r dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth y darpar fabwysiadydd” rhodder “yn dilyn hysbysiad”;
ii
ar ôl “reoliad 27(4)” mewnosoder “neu pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys”;
b
hepgorer paragraffau (2) a (3).
5
Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd)—
a
ym mharagraff (2)(c), yn lle “26(d)” rhodder “26(d) neu (dd)”;
b
ym mharagraff (6)(b), yn lle “26(b) i (d)” rhodder “26(b) i (dd)”.
6
Yn rheoliad 30B (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—
a
ym mharagraff (1), ar ôl “asiantaeth fabwysiadu” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
b
ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
1A
Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes ei bod wedi cael yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26.
c
ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a) a’r “neu” sydd yn union ar ei ôl;
d
ym mharagraff (5)(c)(ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
e
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
5A
Pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys a bo’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw’r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn oherwydd gwybodaeth a gafwyd o dan reoliad 25 neu reoliad 26, ni chaiff y darpar fabwysiadydd wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r dyfarniad o gymhwyster.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
7
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20154 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8
Yn rheoliad 26(1) (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C), yn lle “16 wythnos” rhodder “24 wythnos”.
Dod i ben9
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 10, mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.
2
Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.
Arbedion: asesiadau addasrwydd10
Mewn achos pan fo asiantaeth fabwysiadu, ar 31 Mawrth 2021, yn y broses o asesu addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, rhaid i’r asesiad hwnnw barhau fel pe bai’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)