4. Esboniad o sut y cynhaliwyd yr asesiad, ac yn benodol—
(a)sut y mae wedi penderfynu beth ywʼr ardaloedd lleol yn ei ardal,
(b)sut y mae wedi ystyried (pan foʼn gymwys)—
(i)anghenion gwahanol ardaloedd lleol gwahanol yn ei ardal, a
(ii)anghenion gwahanol aelodau o grwpiau gwahanol yn ei ardal syʼn rhannu priodoledd gyffredin mewn cysylltiad ag un, neu fwy nag un, oʼr nodweddion a ganlyn—
(aa)oed,
(bb)rhywedd,
(cc)ailbennu rhywedd arfaethedig, a gychwynnwyd neu a gwblhawyd,
(dd)anabledd,
(ee)hil,
(ff)crefydd neu gred, ac
(gg)cyfeiriadedd rhywiol;
(c)adroddiad ar yr ymgynghoriad y mae wedi ymgymryd ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)