2020 Rhif 1073 (Cy. 241)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 15, 80, 82A, 83, 84, 86, 88, 104, 107, 110, 115, 116, 118, 203(9) a (10) a 205 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 203(6A) o’r Ddeddf honno.