xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
25 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
2.—(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 29 Medi 2020—
(a)adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);
(b)adran 10 (tir ysgolion);
(c)adran 11 (tir ysbytai);
(d)adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);
(e)adran 18 (awdurdodau gorfodi);
(f)adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1;
(g)adran 28 (dehongli’r Bennod hon); ac
(h)Atodlen 1 (cosbau penodedig).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2020—
(a)adran 15 (cerbydau di-fwg); a
(b)adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Medi 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2(1) yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn ym Mhennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf (ysmygu) ar 29 Medi 2020, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben galluogi i reoliadau gael eu gwneud o dan y darpariaethau hynny—
dran 6 sy’n ymwneud â’r drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg;
adran 10 sy’n ymwneud â thir ysgolion;
adran 11 sy’n ymwneud â thir ysbytai;
adran 17 sy’n ymwneud ag arwyddion: mangreoedd di-fwg;
adran 18 sy’n ymwneud ag awdurdodau gorfodi;
adran 27 sy’n ymwneud â hysbysiadau cosb benodedig;
adran 28 sy’n ymwneud â dehongli Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf; ac
Atodlen 1 sy’n ymwneud â chosbau penodedig.
Mae erthygl 2(2) yn dwyn i rym adran 15 (cerbydau di-fwg) ac adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau) o’r Ddeddf ar 29 Medi 2020.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
(1) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
(2) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
Adran 2 | 4 Hydref 2017 | (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 3 | 4 Hydref 2017 | (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 94 | 1 Chwefror 2018 | (Cy. 1)(1) |
Rhan 5 | 1 Chwefror 2018 | (Cy. 1) |
Rhan 7 | 1 Ebrill 2019 | (Cy. 152)(2) |
Rhan 8 | 31 Mai 2018 | (Cy. 116) (C. 48) |
Adran 119 | 4 Hydref 2017 | (Cy. 237) (C. 85) |
Atodlen 4 | 31 Mai 2018 | (Cy. 116) (C. 48) |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).