Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 20202.

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 29 Medi 2020—

(a)

adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);

(b)

adran 10 (tir ysgolion);

(c)

adran 11 (tir ysbytai);

(d)

adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);

(e)

adran 18 (awdurdodau gorfodi);

(f)

adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1;

(g)

adran 28 (dehongli’r Bennod hon); ac

(h)

Atodlen 1 (cosbau penodedig).

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2020—

(a)

adran 15 (cerbydau di-fwg); a

(b)

adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau).