NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

(a)

yn dynodi Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ardal diogelu iechyd leol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol;

(b)

yn gwneud mân ddiwygiadau, gan gynnwys darpariaethau ynghylch yr esgus rhesymol i ymgynnull o dan do ac i fynd i ardal diogelu iechyd leol neu ei gadael, gyda’r bwriad o egluro bod rhoi gwaed a thriniaethau tebyg yn dod o fewn yr esgus rhesymol sy’n bodoli i gael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, sydd ynddo’i hun yn cynnwys cael gafael ar wasanaethau iechyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.