- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 1.04 p.m. ar 17 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.45 p.m. ar 17 Medi 2020
Yn dod i rym am
am 6.00 p.m. ar 17 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 17 Medi 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 14(2)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “cael” mewnosoder “neu ddarparu”;
(b)hepgorer is-baragraff (d).
(3) Yn rheoliad 14C—
(a)yn y pennawd, yn lle “Ardal” rhodder “Ardaloedd”;
(b)yn y rheoliad—
(i)yn lle “ardal” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd rhodder “ardaloedd”;
(ii)yn lle “ardal honno” rhodder “ardaloedd hynny”.
(4) Yn rheoliad 17—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (c), yn lle “paragraffau (2) a (3)” rhodder “paragraff (2)”;
(ii)yn is-baragraff (d), yn lle “paragraffau (2) a (3)” rhodder “paragraff (2)”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “12(2)” mewnosoder “, neu baragraff 7 o Atodlen 4A,”.
(5) Yn rheoliad 18(6A), yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.
(6) Yn rheoliad 20(1)(a), yn lle “baragraff 5(1) o Atodlen 4A” rhodder “baragraffau 5(1) neu 7(1) o Atodlen 4A”.
(7) Yn Atodlen 4A—
(a)yn lle paragraff 1 rhodder—
1. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r ardaloedd a ganlyn yn ardaloedd diogelu iechyd lleol—
(a)Bwrdeistref Sirol Caerffili;
(b)Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
(b)ar ddiwedd yr Atodlen mewnosoder—
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am fangre drwyddedig ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd wedi ei hawdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre—
(a)rhaid iddo gau’r fangre am neu cyn 11.00 p.m. bob dydd, a
(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r fangre drwyddedig fod ar agor yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(3) Yn y paragraff hwn—
(a)mae “mangre drwyddedig” yn fangre y mae awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol mewn cysylltiad â hi;
(b)mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o Ddeddf Trwyddedu 2003(3).”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.04 p.m. ar 17 Medi 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
(a)yn dynodi Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ardal diogelu iechyd leol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol;
(b)yn gwneud mân ddiwygiadau, gan gynnwys darpariaethau ynghylch yr esgus rhesymol i ymgynnull o dan do ac i fynd i ardal diogelu iechyd leol neu ei gadael, gyda’r bwriad o egluro bod rhoi gwaed a thriniaethau tebyg yn dod o fewn yr esgus rhesymol sy’n bodoli i gael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, sydd ynddo’i hun yn cynnwys cael gafael ar wasanaethau iechyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/752 (Cy. 169)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/803 (Cy. 176)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/820 (Cy. 180)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/843 (Cy. 186)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/867 (Cy. 189)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/884 (Cy. 195)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/912 (Cy. 204)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 (O.S. 2020/961 (Cy. 215)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/985 (Cy. 222)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: