xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes iechyd anifeiliaid. Maent yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n gwneud darpariaeth i orfodi—

(a)Rheoliad Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (EC) Rhif 999/2001 sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol,

(b)Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (EC) Rhif 1069/2009 sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynyhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta, ac

(c)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.