2019 Rhif 932 (Cy. 163)
Aer Glân, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 19931, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2019 .

Diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 20192.

Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 20192, yn yr Atodlen, ym mharagraff 71(c), yn lle “150” rhodder “130”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/50 (Cy. 15)) (“Rheoliadau 2019”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2019.

Mae Rheoliadau 2019 yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.