- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Aer Glân, Cymru
Gwnaed
9 Mai 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mai 2019
Yn dod i rym
5 Mehefin 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2019 .
2. Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019(2), yn yr Atodlen, ym mharagraff 71(c), yn lle “150” rhodder “130”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/50 (Cy. 15)) (“Rheoliadau 2019”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2019.
Mae Rheoliadau 2019 yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1993 p. 11. Trosglwyddwyd swyddogaeth berthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaeth honno’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: