Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

(3Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 6 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(1) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017”).

(4Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—

(a)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu

(b)sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019,

gweler Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017.