Search Legislation

Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

o ran “asiantaeth berthnasol” (“relevant agency”)—

(a)

ei ystyr yw asiantaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn—

(i)

asiantaeth fabwysiadu wirfoddol;

(ii)

asiantaeth cymorth mabwysiadu;

(iii)

asiantaeth faethu, a

(b)

mae’n cynnwys, at ddibenion y Gorchymyn hwn, gynllun lleoli oedolion(1);

mae i “cyfnod trosiannol” (“transition period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2);

mae i “darpariaethau Rhan 2” (“the Part 2 provisions”) yr ystyr a roddir yn erthygl 7(4);

ystyr “darparwr DSG” (“CSA provider”) yw person sydd, yn union cyn y diwrnod penodedig, wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth berthnasol;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(2);

mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

o ran “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”)—

(a)

ei ystyr yw gwasanaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Bennod 2 o Ran 1 o’r Ddeddf—

(i)

gwasanaeth cartref gofal;

(ii)

gwasanaeth llety diogel;

(iii)

gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; neu

(iv)

gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)

mae’r person hwnnw hefyd yn ddarparwr DSG;

mae i “gwasanaeth trosiannol” (“transition service”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3.

(3Yn y Gorchymyn hwn, mae i’r termau “asiantaeth fabwysiadu wirfoddol”, “asiantaeth cymorth mabwysiadu” ac “asiantaeth faethu” yr ystyron a roddir i “voluntary adoption agency”, “adoption support agency” a “fostering agency” yn adran 4 o Ddeddf 2000 ac mae i’r term “cynllun lleoli oedolion” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(3).

Diwrnodau penodedig ar gyfer cychwyn darpariaeth sy’n ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig

2.—(129 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i adran 6 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau a nodir ym mharagraff (2).

(2Mae adran 6 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n gymwys i berson sydd am ddarparu un o’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau (d) i (g) o adran 2(1) o’r Ddeddf.

(329 Ebrill 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—

(a)paragraffau (1)(d) i (g) o adran 2, a pharagraffau 4 i 7 a 9 o Atodlen 1;

(b)adran 56(1) (adroddiadau gan awdurdodau lleol a dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144C (dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru) yn Neddf 2014(4);

(c)adran 57 (adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau), a

(d)adran 185 a Rhan 1 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Cyfeirir at 29 Ebrill 2019 yn y Gorchymyn hwn fel “y diwrnod penodedig”.

Ystyr gwasanaeth trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), “gwasanaeth trosiannol” yw—

(a)asiantaeth berthnasol y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn union cyn y diwrnod penodedig ac—

(i)yn achos asiantaeth fabwysiadu wirfoddol neu asiantaeth cymorth mabwysiadu, mae’r ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau mabwysiadu ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6(5) neu 11(1)(a)(i)(6) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth mabwysiadu i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

(ii)yn achos asiantaeth faethu, mae’r ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau maethu ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth maethu i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

(iii)yn achos cynllun lleoli oedolion, mae’r ardal y mae’r cynllun yn darparu gwasanaethau ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) o’r Ddeddf yn fan y mae gwasanaeth lleoli oedolion i’w ddarparu mewn perthynas ag ef.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf

4.—(1Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr DSG yn ystod y cyfnod trosiannol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y “cyfnod trosiannol” ar gyfer darparwr DSG yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig ac sy’n gorffen ar ba ddyddiad bynnag yw’r cynharaf o—

(a)y dyddiad perthnasol fel y’i pennir ym mharagraff (4); neu

(b)y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar gais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol.

(3Pan fo asiantaeth y mae darparwr DSG wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi yn dod yn wasanaeth trosiannol am ei bod wedi ei phennu mewn cais i gofrestru o dan adran 6, neu i amrywio o dan adran 11(1)(a)(i), mae’r cyfnod trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi ei estyn i’r dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y cais.

(4Yn ddarostyngedig i erthyglau 5 a 6, y dyddiad perthnasol yw 31 Awst 2019.

(5Mae cyfeiriad yn yr erthygl hon at yr amser pan benderfynir yn derfynol ar gais o dan adran 6 neu 11(1)(a)(i) yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26(1) o’r Ddeddf yn erbyn hysbysiad a ddyroddir o dan adran 19(4) o’r Ddeddf;

(b)penderfynu ar unrhyw apêl neu roi’r gorau i unrhyw apêl.

Gohirio’r dyddiad perthnasol ar gyfer asiantaeth berthnasol sy’n ddarostyngedig i broses ganslo

5.—(1Pan fo asiantaeth berthnasol, ar y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), yn ddarostyngedig i broses ganslo, caiff y dyddiad perthnasol ei ohirio tan y dyddiad sydd 6 wythnos ar ôl y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y broses ganslo.

(2Mae asiantaeth berthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo os yw hysbysiad o gynnig i ganslo o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 wedi ei roi i’r darparwr DSG cyn y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4) ac na phenderfynir yn derfynol ar y broses erbyn y dyddiad hwnnw.

(3Penderfynir yn derfynol ar broses ganslo—

(a)pan benderfynir ar unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y canslo neu pan roddir y gorau i unrhyw apêl o’r fath;

(b)pan yw hysbysiad o benderfyniad o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno a bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir i apêl gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynddo wedi dod i ben; neu

(c)pan hysbysir y darparwr DSG nad yw’r hysbysiad o gynnig wedi ei gadarnhau neu fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gohirio’r dyddiad perthnasol ar gyfer gwasanaeth perthnasol sy’n ddarostyngedig i broses ganslo

6.—(1Pan fo gwasanaeth perthnasol, ar y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), yn ddarostyngedig i broses ganslo, caiff y dyddiad perthnasol ei ohirio tan y dyddiad sydd 6 wythnos ar ôl y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y broses ganslo.

(2Mae gwasanaeth perthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo os yw hysbysiad gwella o dan adran 16(2) o’r Ddeddf wedi ei roi i ddarparwr y gwasanaeth perthnasol, cyn y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(4), gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 ac na phenderfynir yn derfynol ar y broses erbyn y dyddiad hwnnw.

(3Penderfynir yn derfynol ar broses ganslo—

(a)pan benderfynir ar unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y canslo neu pan roddir y gorau i unrhyw apêl o’r fath;

(b)pan yw hysbysiad o benderfyniad o dan adran 17(2), (3)(a) neu (5) o’r Ddeddf wedi ei gyflwyno a bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir i apêl gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynddo wedi dod i ben; neu

(c)pan hysbysir darparwr y gwasanaeth perthnasol o dan adran 17(1) neu (4) o’r Ddeddf.

Arbedion yn ystod y cyfnod trosiannol

7.—(1Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio ei gais, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—

(a)darparwr DSG;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)y Tribiwnlys Haen Gyntaf;

(d)Llys Ynadon,

fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.

(2Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(7) (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.

(3Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y diwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.

(4Darpariaethau Rhan 2 yw—

(a)adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36 a 37 o Ddeddf 2000;

(b)unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad â hi—

(i)Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003(8);

(ii)Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(9);

(iii)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(10);

(iv)Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(11);

(v)Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011(12);

(c)unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r asiantaeth o dan sylw.

Addasiadau trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr DSG y mae rheoleiddio yn parhau ar eu cyfer o dan Ddeddf 2000

8.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr DSG mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol o dan Ddeddf 2000 yn ystod y cyfnod trosiannol, mae gofynion adran 7(1) a (2) o’r Ddeddf, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â’r cais wedi eu haddasu fel nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais mewn cysylltiad â’r man sy’n destun y mesurau gorfodi hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi wedi ei chwblhau.

(2At ddibenion paragraff (1), mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 21 o Ddeddf 2000; neu

(b)y cyfnod hyd nes y penderfynwyd ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—

(a)dyroddi hysbysiad o gynnig o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;

(b)atal dros dro o dan adran 14A neu ddyroddi hysbysiad i atal dros dro ar frys o dan adran 20B o Ddeddf 2000;

(c)cais i ganslo ar frys o dan adran 20A o Ddeddf 2000.

Addasiadau trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau perthnasol sy’n ddarostyngedig i fesurau gorfodi

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth perthnasol pan fo’r darparwr hefyd yn ddarparwr gwasanaeth trosiannol, ar ôl cyflwyno cais o dan adran 11(1)(a) o’r Ddeddf cyn y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad ag asiantaeth berthnasol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr gwasanaeth perthnasol o dan y Ddeddf, mae’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais a nodir yn adran 12(1) o’r Ddeddf wedi ei haddasu fel y caiff Gweinidogion Cymru ohirio penderfynu ar y cais hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi wedi ei chwblhau.

(3At ddibenion paragraff (1), mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—

(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26 o’r Ddeddf; neu

(b)y cyfnod hyd nes y penderfynwyd ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddwyd y gorau iddi.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—

(a)dyroddi hysbysiad gwella o dan adran 16(2) o’r Ddeddf neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;

(b)cais i ganslo neu amrywio ar frys o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu

(c)dyroddi hysbysiad o benderfyniad o dan adran 25 o’r Ddeddf.

Darpariaeth ar gyfer ceisiadau o dan Ddeddf 2000 sydd wrthi’n cael eu penderfynu ar y diwrnod penodedig

10.  Pan na fo Gweinidogion Cymru, ar y diwrnod penodedig, wedi cwblhau’r penderfyniad ar gais i gofrestru o dan adran 12 o Ddeddf 2000 yn ddarparwr asiantaeth berthnasol a chafwyd y cais cyn 29 Chwefror 2019, cânt drin y cais fel pe bai’n un a wnaed o dan adran 6 neu 11(1)(a) o’r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a chânt ofyn am unrhyw wybodaeth bellach sy’n ofynnol gan adran 6 neu 11(1)(a), yn ôl y digwydd, neu gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(13), er mwyn eu galluogi i benderfynu ar y cais.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau gan ddarparwyr DSG i amrywio neu ddileu amodau cofrestru yn y cyfnod trosiannol

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo darparwr DSG, yn ystod y cyfnod trosiannol, yn gwneud cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 i amrywio neu ddileu amod cofrestru ar gyfer asiantaeth sy’n wasanaeth trosiannol.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, er gwaethaf gofynion adran 15(4) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i ganiatáu cais) ac adran 17(5) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i wrthod cais) o Ddeddf 2000, nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 a chânt yn lle hynny ei ystyried fel rhan o gais y darparwr DSG o dan adran 6 o’r Ddeddf neu adran 11(1)(a) yn ôl y digwydd.

Darpariaeth ynghylch rheolwyr sy’n ddarostyngedig i hysbysiad o benderfyniad i ganslo a ddyroddir cyn y diwrnod penodedig

12.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad o benderfyniad i ganslo cofrestriad rheolwr asiantaeth o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 a bo’r rheolwr, cyn y diwrnod penodedig, wedi dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad o dan adran 21 (apelio i’r Tribiwnlys) o Ddeddf 2000, bydd cofrestriad y rheolwr yn parhau, at ddibenion yr apêl, hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu y rhoddir y gorau iddi.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf ar gyfer darparwyr presennol gwasanaethau

13.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson sydd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal cymdeithas fabwysiadu dim ond am fod yr ymgymeriad sy’n darparu’r gwasanaethau, neu’n trefnu bod y gwasanaethau yn cael eu darparu, yn gangen o gymdeithas fabwysiadu, sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ac sydd wedi ei lleoli yn Lloegr;

(b)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu dim ond am fod yr asiantaeth cymorth mabwysiadu yn gorff anghorfforedig;

(c)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth eirioli ond nad oedd yn ofynnol iddo fod wedi ei gofrestru felly yn union cyn y diwrnod penodedig;

(d)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu neu wasanaeth lleoli oedolion ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu, asiantaeth faethu neu gynllun lleoli oedolion dim ond am nad yw’r person sy’n darparu’r gwasanaeth wedi ei leoli yng Nghymru.

(2Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth lleoli oedolion, yn ôl y digwydd, o dan adran 6 o’r Ddeddf cyn 31 Awst 2019, nid yw adran 5 o’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw o ran darparu’r gwasanaeth mabwysiadu, y gwasanaeth maethu, y gwasanaeth eirioli neu’r gwasanaeth lleoli oedolion mewn perthynas â’r mannau a bennir yn y cais hyd nes y penderfynir yn derfynol ar y cais.

(3Mae i’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at benderfynu’n derfynol ar gais yr un ystyr ag yn erthygl 4(3) a (5).

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Ebrill 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources