- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson sydd, yn union cyn y diwrnod penodedig—
(a)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal cymdeithas fabwysiadu dim ond am fod yr ymgymeriad sy’n darparu’r gwasanaethau, neu’n trefnu bod y gwasanaethau yn cael eu darparu, yn gangen o gymdeithas fabwysiadu, sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ac sydd wedi ei lleoli yn Lloegr;
(b)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu dim ond am fod yr asiantaeth cymorth mabwysiadu yn gorff anghorfforedig;
(c)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth eirioli ond nad oedd yn ofynnol iddo fod wedi ei gofrestru felly yn union cyn y diwrnod penodedig;
(d)yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl y diwrnod penodedig, i’r person fod wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu neu wasanaeth lleoli oedolion ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn berson sy’n cynnal asiantaeth cymorth mabwysiadu, asiantaeth faethu neu gynllun lleoli oedolion dim ond am nad yw’r person sy’n darparu’r gwasanaeth wedi ei leoli yng Nghymru.
(2) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth lleoli oedolion, yn ôl y digwydd, o dan adran 6 o’r Ddeddf cyn 31 Awst 2019, nid yw adran 5 o’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw o ran darparu’r gwasanaeth mabwysiadu, y gwasanaeth maethu, y gwasanaeth eirioli neu’r gwasanaeth lleoli oedolion mewn perthynas â’r mannau a bennir yn y cais hyd nes y penderfynir yn derfynol ar y cais.
(3) Mae i’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at benderfynu’n derfynol ar gais yr un ystyr ag yn erthygl 4(3) a (5).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: