2019 Rhif 856 (Cy. 154)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”)1.

Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol.

Gosododd Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, ddrafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Chwefror 2019.