RHAN 3Elusennau
Diwygio Atodlen 18 i DTTT3
1
Mae Atodlen 18 i DTTT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff 1(a) mewnosoder—
aa
mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,
3
Ym mharagraff 2(3)(a), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A”.
4
Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
Ystyr “elusen”2A
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—
a
sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,
b
sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),
c
sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a
d
sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).
Ystyr “elusen”: yr amod awdurdodaeth2B
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.
2
Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—
a
yr Uchel Lys,
b
y Llys Sesiwn, neu
c
yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.
Ystyr “elusen”: yr amod cofrestru2C
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—
a
yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a
b
yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.
2
Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.
3
Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Ystyr “elusen”: yr amod rheoli2D
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.
2
Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.
4
Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—
a
nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu
b
ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.
5
Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.