(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac adrannau 18(2), 30(6), 36(8) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (“DTTT”).
Mae Rhan 2 yn diweddaru cyfeiriad at ddeddfwriaeth yr UE mewn darpariaeth yn DTTT ynghylch trin cydnabyddiaeth mewn perthynas â lesoedd.
Mae Rhan 3 yn diwygio’r diffiniad o elusennau yn Atodlen 18 i DTTT.
Mae Rhan 4 yn pennu bod cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad a gynhwysir yn rheoliad 4(2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddiben treth trafodiadau tir.
Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (“DCRhT”) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Rhan 6 yn gwneud diwygiadau i DCRhT a DTTT o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 3 a 4.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.