2019 Rhif 833 (Cy. 153)
Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
mewn perthynas â Rhan 1, y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (b) i (f);
mewn perthynas â Rhan 2, adran 18(2) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171 (“DTTT”);
mewn perthynas â Rhan 3, adran 30(6) o DTTT;
mewn perthynas â Rhan 4, adran 36(8) o DTTT;
mewn perthynas â Rhan 5, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182;
mewn perthynas â Rhan 6, adran 78(1) o DTTT.
Yn unol ag adran 79(2) o DTTT a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
3
Daw Rhan 2 a’r rheoliad hwn i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20163;
ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
RHAN 2Lesoedd
Diwygio Atodlen 6 i DTTT2
Ym mharagraff 16(1)(h) o Atodlen 6 i DTTT (rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), yn lle “gynllun y taliad sengl (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Theitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009)” rhodder “gynllun y taliad sylfaenol (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013)”.
RHAN 3Elusennau
Diwygio Atodlen 18 i DTTT3
1
Mae Atodlen 18 i DTTT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff 1(a) mewnosoder—
aa
mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,
3
Ym mharagraff 2(3)(a), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A”.
4
Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
Ystyr “elusen”2A
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—
a
sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,
b
sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),
c
sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a
d
sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).
Ystyr “elusen”: yr amod awdurdodaeth2B
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.
2
Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—
a
yr Uchel Lys,
b
y Llys Sesiwn, neu
c
yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.
Ystyr “elusen”: yr amod cofrestru2C
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—
a
yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a
b
yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.
2
Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.
3
Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Ystyr “elusen”: yr amod rheoli2D
1
Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.
2
Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.
4
Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—
a
nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu
b
ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.
5
Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
RHAN 4Cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth
Disgrifiad o gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o dan adran 36(8) o DTTT4
1
Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad ym mharagraff (2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion DTTT a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir.
2
Y disgrifiad yw bod y cynllun—
a
wedi ei gyfansoddi o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE drwy gontract,
b
wedi ei reoli gan gorff corfforaethol a ymgorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac
c
wedi ei awdurdodi o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a ddiffinnir yn adran 36(7) o DTTT.
3
Mae’r rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad tir y mae ei ddyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
RHAN 5Diwygio DCRhT
Diwygio DCRhT yn deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd5
1
Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol), hepgorer paragraff (c).
3
Yn adran 65(4)(a) (cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
4
Yn adran 67(11) (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad)—
a
hepgorer y geiriau o “os yw’r dreth ddatganoledig” hyd at “yn groes i”;
b
ym mharagraff (a), yn lle “y darpariaethau” rhodder “os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau”;
c
ar ôl paragraff (a), yn lle “neu” rhodder “a”;
d
yn lle paragraff (b) rhodder—
b
os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.
RHAN 6Diwygiadau canlyniadol
Diwygiadau canlyniadol6
1
Yn adran 85(3) o DCRhT (ystyr “rhedeg busnes”), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT”.
2
Yn adran 36 o DTTT (cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth)—
a
hepgorer is-adran (6);
b
yn is-adran (12), yn y diffiniad o “gweithredwr”—
i
hepgorer yr “, a” ar ôl paragraff (a);
ii
hepgorer paragraff (b) (ac mae gweddill y testun yn peidio â bod yn baragraff (a)).
3
Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)