Search Legislation

Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 833 (Cy. 153)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed

2 Ebrill 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)mewn perthynas â Rhan 1, y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (b) i (f);

(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 18(2) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1) (“DTTT”);

(c)mewn perthynas â Rhan 3, adran 30(6) o DTTT;

(d)mewn perthynas â Rhan 4, adran 36(8) o DTTT;

(e)mewn perthynas â Rhan 5, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2);

(f)mewn perthynas â Rhan 6, adran 78(1) o DTTT.

Yn unol ag adran 79(2) o DTTT a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Daw Rhan 2 a’r rheoliad hwn i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(3);

ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

RHAN 2Lesoedd

Diwygio Atodlen 6 i DTTT

2.  Ym mharagraff 16(1)(h) o Atodlen 6 i DTTT (rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), yn lle “gynllun y taliad sengl (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Theitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009)” rhodder “gynllun y taliad sylfaenol (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013)”.

RHAN 3Elusennau

Diwygio Atodlen 18 i DTTT

3.—(1Mae Atodlen 18 i DTTT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1(a) mewnosoder—

(aa)mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,.

(3Ym mharagraff 2(3)(a), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A”.

(4Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

Ystyr “elusen”

2A.  At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—

(a)sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,

(b)sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),

(c)sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a

(d)sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).

Ystyr “elusen”: yr amod awdurdodaeth

2B.(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.

(2) Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—

(a)yr Uchel Lys,

(b)y Llys Sesiwn, neu

(c)yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.

Ystyr “elusen”: yr amod cofrestru

2C.(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—

(a)yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a

(b)yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.

(2) Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.

(3) Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Ystyr “elusen”: yr amod rheoli

2D.(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.

(2) Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.

(3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.

(4) Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—

(a)nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu

(b)ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.

(5Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.

RHAN 4Cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth

Disgrifiad o gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o dan adran 36(8) o DTTT

4.—(1Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad ym mharagraff (2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion DTTT a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir.

(2Y disgrifiad yw bod y cynllun—

(a)wedi ei gyfansoddi o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE drwy gontract,

(b)wedi ei reoli gan gorff corfforaethol a ymgorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac

(c)wedi ei awdurdodi o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a ddiffinnir yn adran 36(7) o DTTT.

(3Mae’r rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad tir y mae ei ddyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.

RHAN 5Diwygio DCRhT

Diwygio DCRhT yn deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

5.—(1Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol), hepgorer paragraff (c).

(3Yn adran 65(4)(a) (cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.

(4Yn adran 67(11) (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad)—

(a)hepgorer y geiriau o “os yw’r dreth ddatganoledig” hyd at “yn groes i”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “y darpariaethau” rhodder “os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau”;

(c)ar ôl paragraff (a), yn lle “neu” rhodder “a”;

(d)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.

RHAN 6Diwygiadau canlyniadol

Diwygiadau canlyniadol

6.—(1Yn adran 85(3) o DCRhT (ystyr “rhedeg busnes”), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT”.

(2Yn adran 36 o DTTT (cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth)—

(a)hepgorer is-adran (6);

(b)yn is-adran (12), yn y diffiniad o “gweithredwr”—

(i)hepgorer yr “, a” ar ôl paragraff (a);

(ii)hepgorer paragraff (b) (ac mae gweddill y testun yn peidio â bod yn baragraff (a)).

(3Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

2 Ebrill 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac adrannau 18(2), 30(6), 36(8) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (“DTTT”).

Mae Rhan 2 yn diweddaru cyfeiriad at ddeddfwriaeth yr UE mewn darpariaeth yn DTTT ynghylch trin cydnabyddiaeth mewn perthynas â lesoedd.

Mae Rhan 3 yn diwygio’r diffiniad o elusennau yn Atodlen 18 i DTTT.

Mae Rhan 4 yn pennu bod cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad a gynhwysir yn rheoliad 4(2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddiben treth trafodiadau tir.

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (“DCRhT”) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 6 yn gwneud diwygiadau i DCRhT a DTTT o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 3 a 4.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources