Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019
Yn unol ag adran 55(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2019.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod o fwy na 6 mis y mae corff dyfarnu yn cyhoeddi cyfrifon mewn cysylltiad ag ef neu, os nad yw unrhyw gyfrifon o’r fath wedi eu cyhoeddi am y cyfnod, y mae’n llunio cyfrifon mewn cysylltiad ag ef;
ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw’r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;
mae i “corff dyfarnu” (“awarding body”) yr ystyr a roddir gan adran 57 o Ddeddf 2015;
ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw’r dyddiad y mae Cymwysterau Cymru yn rhoi hysbysiad i gorff dyfarnu o dan adran 38(4) o’r Ddeddf o’i fwriad i osod cosb ariannol ar y corff dyfarnu;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cosb ariannol: swm3.
(1)
Ni chaniateir i swm cosb ariannol a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 o’r Ddeddf fod yn fwy na 10% o drosiant y corff dyfarnu.
(2)
Mae trosiant corff dyfarnu at ddibenion paragraff (1) i’w benderfynu yn unol â rheoliadau 4 a 5.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caniateir i’r swm fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos.
Penderfynu ar drosiant at ddibenion rheoliad 34.
(1)
Pan fo’r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o 12 mis, trosiant corff dyfarnu yw trosiant cymwys y corff am y flwyddyn fusnes flaenorol gyfan.
(2)
Pan nad oedd y flwyddyn fusnes flaenorol yn hafal i 12 mis, y trosiant yw trosiant cymwys y corff dyfarnu am y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno ac wedi ei luosi â 12.
(3)
Pan nad oedd blwyddyn fusnes flaenorol, y trosiant yw’r trosiant cymwys am y 12 mis sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y mae’r dyddiad hysbysu yn dod ynddo.
(4)
Pan fo gan y corff dyfarnu, wrth gymhwyso paragraff (3), drosiant am gyfnod o lai na 12 mis, y trosiant yw’r trosiant cymwys yn y cyfnod hwnnw wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw ac wedi ei luosi â 12.
(5)
Yn y rheoliad hwn—
mae i “trosiant cymwys” yr ystyr a roddir yn rheoliad 5.
Trosiant cymwys5.
(1)
At ddibenion rheoliad 4, trosiant cymwys corff dyfarnu yw cyfanswm—
(a)
pob swm sy’n dod i’r corff am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n dod o fewn gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig; a
(b)
pob swm arall a geir gan y corff yng nghwrs gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig ar ffurf rhodd, grant, cymhorthdal neu ffi aelodaeth,
ar ôl didynnu gostyngiadau masnach, treth ar waith a threthi eraill yn seiliedig ar y symiau sy’n dod felly neu a geir felly.
(2)
Mae’r symiau i’w cyfrifo gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.
Mae adran 38(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) yn galluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu sydd wedi methu â chydymffurfio ag un o amodau ei gydnabyddiaeth neu amod cymeradwyo y mae ei gymhwyster a gymeradwywyd yn ddarostyngedig iddo.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch sut i benderfynu ar y swm sydd i’w dalu gan y corff dyfarnu at ddibenion adran 38(3) o’r Ddeddf.
Caniateir i swm y gosb ariannol fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaniateir iddo fod yn fwy na’r swm a amlinellir gan Weinidogion Cymru yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliadau 4 a 5 yn penderfynu ar drosiant corff dyfarnu at ddibenion rheoliad 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.