Search Legislation

Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 796 (Cy. 149)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

Gwnaed

3 Ebrill 2019

Yn dod i rym

12 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 38(3) a 55(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod o fwy na 6 mis y mae corff dyfarnu yn cyhoeddi cyfrifon mewn cysylltiad ag ef neu, os nad yw unrhyw gyfrifon o’r fath wedi eu cyhoeddi am y cyfnod, y mae’n llunio cyfrifon mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw’r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;

mae i “corff dyfarnu” (“awarding body”) yr ystyr a roddir gan adran 57 o Ddeddf 2015;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw’r dyddiad y mae Cymwysterau Cymru yn rhoi hysbysiad i gorff dyfarnu o dan adran 38(4) o’r Ddeddf o’i fwriad i osod cosb ariannol ar y corff dyfarnu;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.

Cosb ariannol: swm

3.—(1Ni chaniateir i swm cosb ariannol a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 o’r Ddeddf fod yn fwy na 10% o drosiant y corff dyfarnu.

(2Mae trosiant corff dyfarnu at ddibenion paragraff (1) i’w benderfynu yn unol â rheoliadau 4 a 5.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caniateir i’r swm fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos.

Penderfynu ar drosiant at ddibenion rheoliad 3

4.—(1Pan fo’r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o 12 mis, trosiant corff dyfarnu yw trosiant cymwys y corff am y flwyddyn fusnes flaenorol gyfan.

(2Pan nad oedd y flwyddyn fusnes flaenorol yn hafal i 12 mis, y trosiant yw trosiant cymwys y corff dyfarnu am y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno ac wedi ei luosi â 12.

(3Pan nad oedd blwyddyn fusnes flaenorol, y trosiant yw’r trosiant cymwys am y 12 mis sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y mae’r dyddiad hysbysu yn dod ynddo.

(4Pan fo gan y corff dyfarnu, wrth gymhwyso paragraff (3), drosiant am gyfnod o lai na 12 mis, y trosiant yw’r trosiant cymwys yn y cyfnod hwnnw wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw ac wedi ei luosi â 12.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae i “trosiant cymwys” yr ystyr a roddir yn rheoliad 5.

Trosiant cymwys

5.—(1At ddibenion rheoliad 4, trosiant cymwys corff dyfarnu yw cyfanswm—

(a)pob swm sy’n dod i’r corff am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n dod o fewn gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig; a

(b)pob swm arall a geir gan y corff yng nghwrs gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig ar ffurf rhodd, grant, cymhorthdal neu ffi aelodaeth,

ar ôl didynnu gostyngiadau masnach, treth ar waith a threthi eraill yn seiliedig ar y symiau sy’n dod felly neu a geir felly.

(2Mae’r symiau i’w cyfrifo gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

3 Ebrill 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 38(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) yn galluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu sydd wedi methu â chydymffurfio ag un o amodau ei gydnabyddiaeth neu amod cymeradwyo y mae ei gymhwyster a gymeradwywyd yn ddarostyngedig iddo.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch sut i benderfynu ar y swm sydd i’w dalu gan y corff dyfarnu at ddibenion adran 38(3) o’r Ddeddf.

Caniateir i swm y gosb ariannol fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaniateir iddo fod yn fwy na’r swm a amlinellir gan Weinidogion Cymru yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn penderfynu ar drosiant corff dyfarnu at ddibenion rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2015 dccc 5; gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 57(3).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources