Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr
37.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 23(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.