xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

35.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth.

Dyletswydd i benodi rheolwr

36.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn,

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig,

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth,

(c)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 23(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

(6Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(d) a (3)(d) yn gymwys ond ar ôl 1 Ebrill 2022.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

37.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 23(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

38.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

(b)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—

(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddarparu’r gwasanaeth, a

(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

39.  Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 36(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth—

(a)o enw’r person a benodir, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i GCC a’r rheoleiddiwr gwasanaethau

40.—(1Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 36(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i GCC—

(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y darparwr gwasanaeth, a

(b)o’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.

Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol

41.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.

(2Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Ymweliadau

42.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni,

(b)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth o bob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)cwrdd ag unigolion neu unrhyw gynrychiolwyr i unigolion y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar eu cyfer o bob man o’r fath.

(2Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben, ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob 3 mis.