RHAN 2Arbedion a darpariaeth drosiannol
Ceisiadau sydd yn yr arfaeth16
1
Pan geir cais perthnasol cyn y diwrnod ymadael, mae Deddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw apêl sy’n codi ohono) ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan Ran 1 wedi eu gwneud.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “cais perthnasol” yw cais—
a
i dderbyn i ran gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf 2016,
b
i adnewyddu cofrestriad yn y rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 86(2) o Ddeddf 2016,
c
i aildderbyn i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 80 o Ddeddf 2016 ar ôl i gofrestriad ddarfod, neu
d
i adfer i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 96(2) neu 97(2) o Ddeddf 2016.
Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad:arbed yr hen gyfraith17
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
a
yn union cyn y diwrnod ymadael—
i
roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 201515 mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a
ii
roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person, a
b
bo’r person yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.
2
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan y person hwnnw ar ac ar ôl y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed)—
a
yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
b
adran 74(3) (rheolau: ffioedd);
c
yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);
d
adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
e
adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
f
adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).
3
Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—
a
yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;
b
yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o’r Ddeddf honno, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.
Dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2)18
I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 17(2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
a
yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—
i
mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;
ii
mae is-adran (8) i’w darllen fel pe bai’r diffiniadau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” a “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—
ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—
- a
person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,
- b
person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac, ar yr adeg honno, yn ceisio cael mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu
- c
person nad oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);;
ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—
- a
mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno;
- b
fel arall, fel y maent yn cael effaith (a dim ond i’r graddau y maent yn cael effaith), ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn y diwrnod ymadael neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn y diwrnod ymadael.
b
yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.
Rhybuddion System Wybodaeth y Farchnad Fewnol (IMI)19
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
a
bo person, cyn y diwrnod ymadael, yn cael hysbysiad o benderfyniad a wneir o dan reoliad 67 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 i anfon rhybudd ynglŷn â’r person, a
b
naill ai—
i
bo’r terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 yn dod i ben ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, neu
ii
bo apêl yn erbyn y penderfyniad o dan yr adran honno yn cael ei gwneud, ond ni phenderfynir yn derfynol arni, cyn y diwrnod ymadael.
2
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod ymadael—
a
yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
b
yn adran 90(8), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
c
adran 105(1) (ond nid paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno ac yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn).
3
At ddibenion paragraff (2)(c), mae adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 i’w darllen fel pe bai “Rheoliadau Systemau Cyffredinol (fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg y gwnaed penderfyniad GCC16)” wedi ei roi yn lle “Rheoliadau hynny”.
4
Wrth waredu apêl yn erbyn y penderfyniad ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mae gan y tribiwnlys (yn lle’r pwerau a bennir yn adran 105(5) o Ddeddf 2016) y pŵer—
a
i gadarnhau’r penderfyniad, neu
b
os yw’r tribiwnlys yn ystyried y dylai’r rhybudd gael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio, i gyfarwyddo Gofal Cymdeithasol Cymru i gymryd unrhyw gamau y mae’r tribiwnlys yn meddwl eu bod yn addas i hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd am benderfyniad y tribiwnlys.