2019 Rhif 760 (Cy. 143)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 166(1)(b), (3)(a), (c) a (d), (4)(a) ac (c), 167(3), 168(2)(a) ac (e) a 196(2)(a) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) oʼr Ddeddf ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.