Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
F1RHAN 2
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2RHAN 3Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
RHAN 4Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
57.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
F3“ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth—
(a)
a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad; a
(b)
sy’n, neu sy’n cynnwys, rhisgl wedi ei wahanu neu bren o fath a ddisgrifir yn Rhan A o Atodiad 11, neu Atodiad 12, i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.”;
(b)
hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
(c)
“ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw archwiliad at ddibenion erthygl 12(B1)(c) neu 12A(2)(a) o’r Gorchymyn;”;
F4(ca)
yn y diffiniad o “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, hepgorer “UE”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;
(d)
“ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw archwiliad at ddibenion erthygl 12(B1)(b) neu 12A(2)(b) o’r Gorchymyn;”;
F5(da)
hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol
(e)
“ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw archwiliad at ddibenion erthygl 12(B1)(a) o’r Gorchymyn;”;
(f)
yn y diffiniad o “awdurdodiad pasbort planhigion”, ar ôl “ddyroddi pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU” F6a hepgorer “UE”;.
F7(g)
yn y diffiniad o “awdurdodiad DPP” hepgorer “UE”.
(h)
ym mharagraff (2), hepgorer “UE”, yn y lle cyntaf a’r trydydd lle y mae’n digwydd.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir yn adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), ac Atodlen 2 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.