Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir yn adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), ac Atodlen 2 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.