2019 Rhif 732 (Cy. 137)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A3 o Atodlen 2 iddi, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o

Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20184, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5.

Yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20066 a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.