2019 Rhif 70 (Cy. 22)
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddarpariaethau penodol Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/1283, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)4 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.