2019 Rhif 674 (Cy. 130)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

b

mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721;

c

mewn perthynas â Rhannau 3 i 5, paragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.