xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (O.S. 2019/57 (Cy. 20)) (“y Rheoliadau Ceffylau”) yn cydategu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 yn gosod rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae (OJ Rhif L 59, 3.3.2015, t.1) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi’r Rheoliad hwnnw, yng Nghymru. Mae rheoliad 2 yn cywiro’r Rheoliadau Ceffylau gan ddiwygio un cyfeiriad at “person cyfrifol” i “perchennog”.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.